Beth sydd ymlaen?
Lle’r ydyn ni?

Cliciwch ar y ddelwedd isod am olwg fwy o Bowys.

Map of United Kingdom with Powys Highlighted
Gweithio

Mae ‘unigryw’ yn air sy’n cael ei or-ddefnyddio’n aml. Ond gall y cyfle o weithio gyda Phowys fod yn un gwirioneddol unigryw, a hynny nid yn unig oherwydd yr amgylchedd gwaith rhagorol y mae ein holl weithwyr cyflogedig yn ei fwynhau. Mae’n wir am fod ein tri darparwr gwasanaeth allweddol yn gweithio mewn partneriaeth. Mae Heddlu Dyfed-Powys, y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Cyngor Sir yn arbennig iawn am eu bod yn adar o’r unlliw: yn cydweithio i adeiladu cymunedau diogelach, iachach a chryfach.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gyfrifol am gynnal cyfraith a threfn ym mob cwr o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Mae ei ardal yn fwy na hanner ehangdir Cymru - a dyma wasanaeth heddlu mwyaf Cymru a Lloegr ac mae’n sicrhau bod lefelau troseddau hynod isel yn y rhanbarth a’u bod yn parhau’n isel. P’un a oes gennych chi ddiddordeb mewn plismona cymunedol yng nghefn gwlad neu heriau ein trefi a’n dinasoedd gallwch ddysgu mwy am blismona gyda Phowys

Mae Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn mwynhau’r fraint o gael ei adwaen fel sefydliad gofal sylfaenol arweiniol Cymru. Gan weithio mewn partneriaeth, mae’n comisiynu a darparu gwasanaethau ysbyty, cymuned, iechyd meddwl ac anabledd dysgu llwyddiannus iawn ac yn sicrhau lles pobl Powys. Mae 85% o’r gwelyau yn llawn ar unrhyw un adeg, gall y BILl gynnig lefel gofal heb ei ail, heb sôn am amrywiaeth eang o yrfaoedd i weithwyr proffesiynol sy’n mwynhau gwneud gwahaniaeth go iawn. Gellir cael gwybodaeth bellach trwy ddewis y ddolen hon.

Un o Awdurdodau Unedol Cymru yw Cyngor Sir Powys ac mae’n cynnwys 73 o Gynghorwyr etholedig, sy’n gwasanaethu poblogaeth o 129,300 o breswylwyr, dros ardal o 2000 milltir sgwâr. Mae’n Cyngor yn gwbl flaengar ac ymroddedig i wasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf ac yn cynnig amrywiaeth eang iawn o swyddogaethau. O Athrawon i Weithwyr Cymdeithasol i Benseiri a Chyfrifwyr. Sefydliad ar arweinir gan y bobl yw Powys a gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.

Yn ôl i'r bar llywio