Yn yr adran hon

Lle'r ydyn ni?

Cliciwch ar y ddelwedd isod am olwg fwy o Bowys.

Map of United Kingdom with Powys Highlighted
GWEITHGAREDDAU

Os mai golwg newydd ar y byd yw'ch dymuniad, dyna a gewch ym Mhowys. O ysblander Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a dirgelwch Coedwig Maesyfed yn y de i harddwch gwyllt Mynyddoedd y Berwyn yn y gogledd, mae Powys yn sir o wrthgyferbyniadau trawiadol.

Bryniau garw, llwybrau cerdded hamddenol, chwaraeon dwr cyffrous, cyrsiau golff gwych a rhai o'r llefydd pysgota gorau yn y DU - dyna flas ar Bowys. Ond fe gewch lawn cymaint o hwyl dan do ag y cewch yn yr awyr agored. Mae gan y sir lawer o dai bwyta o'r radd flaenaf, tafarndai a chlybiau prysur, sinemâu aml-sgrîn, theatrau llawn, canolfannau chwaraeon â'r cyfleusterau diweddaraf yn ogystal â'r holl gestyll ac amgueddfeydd y byddech yn eu disgwyl mewn ardal hanesyddol fel hon.

Yn ôl i'r bar llywio