Croeso

Maen nhw'n dweud fod bywyd yr hyn wnewch chi ohono fe. Wel, ym Mhowys gallwch gael y bywyd sy'n iawn i chi. Mae Powys, mae'n amlwg, yn cynnig golygfeydd gwefreiddiol, cyfleoedd gwych i gerdded a seiclo, dringo, canwio a pharesgyn. Ond mae llawer mwy i Bowys na hynny. Dyw'r brifddinas, Caerdydd, ddim yn bell i ffwrdd ac mae'r ardal yn gallu cynnig bywyd tref ffyniannus, safon uwch o fyw, synnwyr cryfach o berthyn i gymuned, cyfraddau troseddu isel, ysgolion gwych - a mwy o gyfleoedd gyrfa nag y byddech chi'n dychmygu. Felly os ydych chi'n weithiwr proffesiynol uchelgeisiol yn chwilio am gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith - sydd yn rhywbeth mae eraill ond yn gallu breuddwydio amdano - bydd Powys yn eich synnu a'ch rhyfeddu.

Ble mae Powys?

Sir yng nghanolbarth Cymru yw Powys, ac mae'n cwmpasu'r tair sir hynafol sef, Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog.

Mae'n ymestyn dros 2000 milltir sgwâr o gyrion Eryri yn y Gogledd i Gwm Tawe yn y De.

Map o Ranbarth Powys
Yn ôl i'r bar llywio