Lleoliad, lleoliad, lleoliad!
Mae Powys yn cynnwys tair sir hynafol, Sir Drefaldwyn, Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog, ac mae'n cwmpasu tua 2000 o filltiroedd sgwâr, yn ymestyn o ffiniau Eryri yn y gogledd i Gwm Tawe yn y de. Mae'r ardal yn hawdd ei chyrraedd yn y car ac ar y trên: mae Caerdydd, prifddinas ddynamig Cymru gyda'i maes awyr rhyngwladol, o fewn cyrraedd hwylus, felly hefyd y ffin â Lloegr a'r arfordir. Heb os, mae Powys yn lleoliad delfrydol i unrhyw un sydd am gyfuno her broffesiynol a ffordd o fyw i'w mwynhau.
















