YMGEISWYR TRAMOR
Canllawiau i ymgeisw+overseas.htmoverseas.htmyr tramor a rhai nad ydynt yn Brydeinwyr
Mae cyngor bras am eich hawl i weithio yn y DU isod. Os ydych am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni neu cysylltwch â’r adran bersonél briodol. Defnyddiwch y dolenni i wefannau swyddogol y Swyddfa Gartref i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan fod y rheolau’n newid yn aml.
- Alla i weithio yn y DU?
- Ydw i’n ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)?
- Rydw i’n ddinesydd yr EEA, felly pa hawliau sydd gen i os ydw i am weithio yn y Deyrnas Unedig?
- Rydw i’n ddinesydd y Swistir, felly pa hawliau sydd gen i?
- Dydw i ddim yn ddinesydd yr EEA, felly beth ddylwn i ei wneud?
- Siart Llif y Swyddfa Gartref – ‘Angen caniatâd i weithio yn y DU?'
- Rhifau ffôn defnyddiol
- Gwefannau defnyddiol
Alla i weithio yn y DU?
Os ydych chi’n:
- Ddinesydd Prydeinig;
- Dinesydd y Gymanwlad gyda hawl preswyl; neu'n
- Aelod teulu dinesydd un o wledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, sy'n byw'n gyfreithlon yn y DU.
nid oes angen i chi gael caniatâd i weithio yn y DU. Cliciwch yma am eglurhad y Swyddfa Gartref.
Ydw i'n ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)?
Rydych chi'n ddinesydd yr EEA os ydych chi'n ddinesydd un o'r gwledydd canlynol.
| Awstria Gwlad Belg Cyprus Gweriniaeth Tsiec Denmarc Estonia Y Ffindir Ffrainc Yr Almaen |
Gwlad Groeg Hwngari Gwlad yr Iâ Iwerddon Yr Eidal Latfia Liechtenstein Lithwania Lwcsembwrg |
Malta Yr Iseldiroedd Norwy Gwlad Pwyl Portiwgal Slofacia Slofenia Sbaen Sweden |
Nid yw Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd (UE). Fodd bynnag mae Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd wedi rhoi'r un hawl i ddinasyddion y gwledydd hyn ddod i mewn, byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig â dinasyddion yr UE.
Rydw i'n ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, felly pa hawliau sydd gen i os ydw i am weithio yn y Deyrnas Unedig?
Gallwch chi:
- dderbyn cynigion am waith;
- gweithio (fel gweithiwr cyflogedig, yn hunangyflogedig neu mewn busnes);
- sefydlu busnes;
- rheoli cwmni; neu
- sefydlu cangen leol cwmni.
Does dim angen trwydded waith ond os ydych chi’n dod o
- Estonia
- Gweriniaeth Tsiec
- Hwngari
- Latfia
- Lithwania
- Slofacia
- Slofenia
efallai y bydd angen i chi gofrestru fel gweithiwr dan y Cynllun Cofrestru Gweithwyr.
Byddwn yn trafod hyn gyda chi ac yn eich cynorthwyo yn y broses.
Mae taflen wybodaeth ar gael hefyd:
I gael Ffurflen Gais Cofrestru Gweithiwr (WRS) ffoniwch 08705 210224 neu cliciwch yma.
Rydw i'n ddinesydd y Swistir, felly pa hawliau sydd gen i?
Bydd gennych chi'r un hawliau â Dinasyddion eraill yr EEA.
- Gallwch chi ddefnyddio’r sianel UE/EEA pan fyddwch yn dod i mewn i’r Deyrnas Unedig
- Gallwch chi weithio yn y Deyrnas Unedig heb fod angen trwydded waith arnoch chi
- Gallwch chi wneud cais am drwydded breswyl i ddangos bod gennych chi hawl i fyw yn y Deyrnas Unedig.
- Efallai y bydd hawl gan aelodau eich teulu i fyw gyda chi yn y Deyrnas Unedig.
Dydw i ddim yn ddinesydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, felly beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych yn ddinesydd tramor ac am weithio i ni bydd angen ‘Caniatâd Cyfyngedig i Aros' arnoch chi.
Bydd angen i ni wneud cais am drwydded waith cyn y gallwn ni’ch cyflogi chi ac:
Os ydych chi’n byw yn y DU bydd angen i chi wneud cais am Ganiatâd Cyfyngedig i Aros (LTR) cliciwch yma am fwy o fanylion.
Byddwn ni’n trafod hyn gyda chi mewn cyfweliad.
Os ydych chi eisoes yn byw yn y DU byddwch yn gweld a oes gennych chi hawl i weithio trwy edrych ar y stamp ar eich pasport. Mae enghreifftiau o stampiau pasport ar wefan y Gyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd.
NEU
Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, mae’n bosib y bydd angen i chi wneud cais am glirio mynediad cyn teithio a chofrestru gyda’r heddlu pan fyddwch chi’n cyrraedd.
Mae’n orfodol i ddinasyddion y gwledydd canlynol sy’n bwriadu aros yn y DU am fwy na chwe mis glirio mynediad: Awstria, Canada, Hong Kong SAR, Siapan, Malaysia, Seland Newydd, Singapôr, De Affrica, De Corea ac UDA.
Yn ogystal â deiliaid Trwydded Waith y DU, ac eithrio Dinasyddion Prydeinig heb Hawl Preswyl, bydd angen clirio mynediad y rhai sy’n aros am fwy na chwe mis.
Gan fod y rheolau a’r ffurflenni yn newid yn aml dylech chi ffonio’r Biwro Ymholiadau Mewnfudo a Chenedligrwydd 0870 606 7766 i wneud yn siŵr bod gennych chi’r cyngor diweddaraf.
Gallwch chi ddefnyddio’r holiadur hwn i gael gwybod a oes angen i chi gael fisa, neu glirio mynediad i ddod i mewn neu deithio trwy’r DU.
Siart Llif y Swyddfa Gartref - 'Angen caniatâd i weithio yn y DU?'
Am siart llif yn rhoi trosolwg o'r broses cliciwch yma.
Rhifau ffôn defnyddiol
| Gwasanaeth ymholiadau cyffredinol Trwyddedau Gwaith (DU) Biwro Ymholiadau Mewnfudo a Chenedligrwydd Swyddogion Mewnfudo Awdurdodedig Gwybodaeth Fisa a Thaflenni Canllawiau Ffurflenni cais Fisa Taflenni’r Swyddfa Gartref yn egluro sut mae’r rheolau mewnfudo yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi Ffurflenni cais Tystysgrif Cofrestru Gweithiwr Tîm Cofrestru Gweithwyr y Swyddfa Gartref |
0114 259 4074 0870 606 7766 0845 000 0046 +44 (0)20 7008 8438 +44 (0)20 7008 8308 +44 (0)20 8604 5795 +44 (0)8705 210 224 +44(0)114 259 6262 |
Gwefannau defnyddiol
- Y Swyddfa Gartref Gweithio yn y DU
- Cyfarwyddiaeth Mewnfudo a Chenedligrwydd y Swyddfa Gartref
- Cyfarwyddiaeth Cenedligrwydd – Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
- Dinasyddion yr EEA/UE Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am Fyw a Gweithio yn y DU
- Taflenni’r Swyddfa Gartref yn egluro sut y mae rheolau mewnfudo yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi
- Cyngor ar Bopeth Cenedlaethol

