Gweithio
Mae’n wir bod Powys yn sir fodern, ddeinamig, ac rydyn ni am gael gweithiwyr proffesiynol modern, deinamig i fyw a gweithio yma. Felly, gallwch edrych ymlaen at heriau newydd, hyfforddiant a datblygiad o’r radd flaenaf, cyfle go iawn i symud ymlaen yn eich gyrfa yn ogystal â chyflogau cystadleuol a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith heb ei ail.
Ac, yn y pen draw, Powys yw’r lle i weithwyr proffesiynol sydd am weithio i fyw. Pobl sydd am dai fforddiadwy, cymunedau diogelach, ysgolion gwych, amwynderau trefol rhagorol ac amgylcheddau gweithio campus (edrychwch ar swyddfeydd y Cyngor yn Llandrindod sy’n adlais o’r dwyrain), ffyrdd agored, golygfeydd ysblennydd ac ansawdd bywyd cyfoethocach.
Edrychwch ar yr hyn sydd gan rai o’r bobl sy’n byw ac yn gwneud eu bywoliaeth yma i’w ddweud.
Powys Proffils
Elin Jones - Radiograffydd, Symud i Bowys Ebrill 2005Magwyd fi yn Aberteifi lle mae gennyf deulu o hyd. Symudais i Lundain i wireddu’m huchelgais o weithio mewn ysbyty athrofaol mawr. Roeddwn yn mwynhau’r gwaith yn fawr yn ogystal â’r heriau a’r cyfleoedd oedd yn dod yn ei sgil ond rhywfodd doedd hynny ddim yn ddigon. Dw i’n hoff iawn o gerdded ac yn mwynhau bywyd yn yr awyr agored. Gan i mi gael fy magu yng Nghymru roeddwn i eisoes yn ymwybodol o Bowys a doedd dim angen meddwl dwywaith cyn ymgeisio pan ddaeth y cyfle i weithio i BILl Powys. Mae gan Bowys bopeth i mi. Mae’n ddigon agos i’m teulu ond heb fod yn rhy bell oddi wrth fy ffrindiau ym Mryste. Mae’n hawdd mynd i Gaerdydd, Llundain a Birmingham. Mae’r golygfeydd yn ogoneddus ac mae’r ardal yn cynnig llwybrau cerdded gyda’r gorau yn y DU. O ran gweithio i BILl Powys. Mae’r parch uchel i’r staff yn y sefydliad wedi creu argraff arna i. Un peth wnaeth daro tant gyda mi yn gynnar iawn oedd bod y Prif Weithredwr ei hun wedi dod i’n sesiwn ymsefydlu. O brofiad, mae hyn yn anghyffredin iawn, efallai am fod llawer llai o staff yn BILl Powys na’r hyn yr oeddwn wedi arfer ag e. Er hynny, nid yw’r gair ‘bach’ yn disgrifio Powys o gwbl. Mae’n ardal ddaearyddol anferth gyda 10 o ysbytai cymunedol. Mae hyn yn golygu bod yr heriau a’r cyfleoedd oedd yn fy nghadw i fynd tra’n gweithio i’r ysbyty athrofaol ar gael i mi o hyd - ond ar eu newydd wedd. Mae BILl Powys yn sefydliad unigryw. Dyma sefydliad braenaru Cymru ac mae wedi llwyr newid yn y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer mwy i’w wneud. Rydw i’n hynod falch o ddod â’m profiad a’m harbenigedd i Bowys ac i allu gwneud gwahaniaeth i staff yn ogystal ag i gleifion. Mae gen i lawer o syniadau ac rydw i’n gwybod y caf fy annog a’m cefnogi i’w datblygu. Dw i wedi gweld hynny eisoes. Mae byw a gweithio ym Mhowys yn golygu y galla i fyw bywyd fel rydw i’n dymuno. Nid yn unig mae gen i swydd rydw i’n dwli arni ond dw i hefyd yn mwynhau gallu cyrraedd trefi, dinasoedd, teulu a ffrindiau yn hawdd. |
![]() |
|


