Gweithio
Mae’n wir bod Powys yn sir fodern, ddeinamig, ac rydyn ni am gael gweithiwyr proffesiynol modern, deinamig i fyw a gweithio yma. Felly, gallwch edrych ymlaen at heriau newydd, hyfforddiant a datblygiad o’r radd flaenaf, cyfle go iawn i symud ymlaen yn eich gyrfa yn ogystal â chyflogau cystadleuol a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith heb ei ail.
Ac, yn y pen draw, Powys yw’r lle i weithwyr proffesiynol sydd am weithio i fyw. Pobl sydd am dai fforddiadwy, cymunedau diogelach, ysgolion gwych, amwynderau trefol rhagorol ac amgylcheddau gweithio campus (edrychwch ar swyddfeydd y Cyngor yn Llandrindod sy’n adlais o’r dwyrain), ffyrdd agored, golygfeydd ysblennydd ac ansawdd bywyd cyfoethocach.
Edrychwch ar yr hyn sydd gan rai o’r bobl sy’n byw ac yn gwneud eu bywoliaeth yma i’w ddweud.
Powys Proffils
Lorna Luter - Metron - Ysbyty'r TrallwngEnillais gymhwyster Nyrs Restredig ym 1985 a symud ymlaen i fod yn RGN ym 1995. Profiad o nyrsio Meddygol sydd gen i fwyaf. Bum i’n ddigon ffodus i dreulio peth amser ar y ward Arennol yn Ysbyty Brenhinol Amwythig. Roeddwn i’n gweld y gwaith o nyrsio cleifion arennol yn ddiddorol iawn. Ces i swydd fel Prif Nyrs ar y ward arennol ym mis Hydref 1996 gan fwynhau’r swydd hon sy’n llawn her ac yn werth chweil. Bues i ar gwrs yr English National Board mewn Nyrsio Arennol a gorffen hwnnw y flwyddyn ganlynol. Aros wedyn ar y ward arennol tan fis Hydref 2000 pan ges i swydd Metron Fodern yn Ysbyty Brenhinol Amwythig gan roi arweinyddiaeth a chefnogaeth i’r ward arennol, ward haematoleg a dwy ward feddygol gyffredinol. Bues i yn y swydd honno am dair blynedd. Yn dilyn ailstrwythuro mewnol es i’n ôl i’r ward arennol yn Uwch Brif Nyrs. Dyma’r adeg yn fy ngyrfa pan benderfynais fy mod i’n barod am newid. Dywedodd cyn- gydweithiwr wrtha i fod BILl Powys yn chwilio am rywun i fod yn Fetron yn Ysbyty’r Trallwng. Dyma gysylltu â Paul Labourne, y Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio a threfnu i gyfarfod ag ef yn y Trallwng am ymweliad anffurfiol. O’r eiliad yr es i drwy’r drws roeddwn i’n gwybod mai dyma lle’r oeddwn i am weithio! Yr argraff gyntaf a gefais o’r Ysbyty oedd bod y cleifion yn cael gofal da, bod hwn yn adeilad newydd hyfryd, a bod y staff y gwnes i gyfarfod â nhw yn gyfeillgar ac yn barod eu cymorth. Dyma’r swydd i mi! Wrth ddechrau ym mis Hydref 04 roeddwn i’n awyddus i ddeall y sefydliad cyffredinol yn ogystal â sut roedd safle Ysbyty’r Trallwng yn gweithio. Wrth gwrs, roeddwn i’n bryderus ynglŷn â dechrau swydd newydd ar ôl gweithio i’r un ymddiriedolaeth am 21 o flynyddoedd. Ond buan iawn y diflannodd y pryderon gan fod yr holl staff mor groesawgar a pharod eu cymorth. Bellach dw i wedi bod yn Fetron yn Ysbyty’r Trallwng ers mis Hydref 2004 ac yn mwynhau’r her yn fawr. Y wobr orau i mi yw cael cleifion sy’n cael gofal da a staff dedwydd sy’n teimlo bod eu cyfraniad yn cael ei barchu a’i werthfawrogi. Mae gan staff yr ysbyty synnwyr digrifwch iach sy’n werthfawr mewn unrhyw dîm ac mae’n golygu ei bod yn bleser dod i’r gwaith. Mae ein Meddygon Teulu a’n tîm amlddisgyblaethol yn gofalu fwyfwy am gleifion â chyflyrau cymhleth ac o ganlyniad yn datblygu’u sgiliau. Mae’r tîm yn flaengar iawn ac yn frwdfrydig am eu datblygiad proffesiynol a datblygiadau safle’r ysbyty yn y dyfodol. Mae’r staff yn barod i wynebu heriau a chyfleoedd y dyfodol. Yn bersonol dw i wedi cael y cyfle i gymryd rhan yn y Rhaglen Arweiniad Clinigol sydd wedi bod o gymorth i mi ddeall swyddogaethau eraill yn y BILl a dod i adnabod cydweithwyr o adrannau a disgyblaethau eraill. Mae Metronau yn cael eu gweld fel arweinwyr ac ar lefel sy’n ein galluogi i wneud penderfyniadau lleol a chyfeirio at uwch aelodau’r BILl am farn gorfforaethol os yn briodol. Dw i’n dibynnu’n helaeth ar y Cyfarwyddwr Nyrsio, y Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio, Metronau a chydweithwyr yn y Trallwng am gefnogaeth a chyngor. Mae’r gefnogaeth a gaf i yn ogystal â gwybod bod y sefydliad yn cydweithio i wella gwasanaethau yn barhaus yn golygu bod gweithio ym Mhowys yn werth chweil. Ymwelodd y Prif Weithredwr â’r ysbyty yn ddiweddar a bu’n barod iawn i roi o’i amser i gael sgwrs a gwrando arna i a’r Rheolwr Cyfleusterau yn sôn am faterion o bwys i ni. Mae Ysbyty’r Trallwng yn mwynhau ac yn parhau i ddatblygu perthynas dda gydag asiantaethau allanol sy’n annog gweithio mewn partneriaeth. Dw i’n parhau i fyw yn Telford gyda’m gŵr sy’n gefn mawr. Mae’r daith 45 munud i’r Trallwng yn bleser a byddaf yn aml yn defnyddio’r amser i bwyso a mesur fy niwrnod. Mae’r cydbwysedd rhwng fy mywyd a'm gwaith wedi gwella ac nid oes yn rhaid i mi weithio oriau mor hir. Gan mod i’n hapus yn y gwaith ac yn teimlo dan lai o straen dw i’n berson brafiach i fyw gyda hi! Dyw Ysbyty Cymunedol ddim yn dibynnu ar un unigolyn. Mae angen ymdrech tîm a dyna sydd gennym ni yn y Trallwng. Byddwn i’n argymell i unrhyw un weithio ym Mhowys. Ewch amdani a dewch i weithio i BILl Powys lle rydyn ni’n gwneud mwy ac yn gwneud hynny’n well. |
![]() |
|


